Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

01 Ebrill 2019

SL(5)399 – Cod Ymarfer – Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1339 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2018”).

Mae rheoliad 2(a) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2018 er mwyn caniatáu i ddarparwr awdurdod lleol benodi swyddog o awdurdod lleol arall i fod yn gyfrifol am reoliʼr gwasanaeth maethu.

Mae rheoliad 2(b) yn gwneud diwygiad i destun Cymraeg rheoliad 10 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Saesneg. 

Mae rheoliad 2(c) yn gwneud diwygiad i destun Saesneg rheoliad 11 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Cymraeg.

Mae rheoliad 2(d) yn diwygio rheoliad 26 o Reoliadau 2018 i bennu bod y cyfeiriad yn y rheoliad hwnnw at iechyd a datblygiad yn cael ei newid i iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol. 

Mae rheoliad 2(e) yn diwygio rheoliad 29 o Reoliadau 2018 fel mai 1 Ebrill 2022 sy’n cael ei roi fel y dyddiad na chaiff darparwyr awdurdodau lleol gyflogi person i reoliʼr gwasanaeth maethu awdurdod lleol ohono oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae’r newidiadau a wneir yn rheoliadau 2(b) ac (c) yn ymateb i bwyntiau adrodd a nodwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiad ar Reoliadau 2018.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gosodwyd ar: 14 Mawrth 2019

Yn dod i rym ar: Mai 2019